38,207,168 rhifau cofrestru sydd ar gael ar hyn o bryd i'w prynu ar-lein
terms & conditions of sale
Bydd un o'n hasiantau gwerthu'n darllen Telerau ac Amodau'r Gwerthiant i chi pan fyddwch wedi penderfynu prynu Rhif Cofrestru Dethol DVLA.
"Rydych ar fin rhwymo eich hun i gontract cyfreithiol â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth. Mae croeso i chi fy stopio i unrhyw bryd y bydd rhywbeth yn aneglur.
Mae'r ffi aseinio o £80 a TAW wedi'u cynnwys yng nghyfanswm y pris.
Mae gennych chi gyfnod cychwynnol o 12 mis i aseinio eich cofrestriad i'r cerbyd o'ch dewis, ond gellir ymestyn y cyfnod hawl ychydig cyn iddo ddirwyn i ben, dim ond i chi anfon cais a thalu ffi.
Os nad yw'r cerbyd yr aseinir y cofrestriad hwn iddo wedi ei gofrestru yn eich enw chi, dylech roi enw ceidwad cofrestredig y cerbyd hwnnw i mi er mwyn i mi eu cynnwys fel eich enwebai. Ar ôl i'r contract gael ei greu, ni cheir ychwanegu na newid enwebai ond trwy wneud cais a thalu ffi.
Dim ond i gerbyd a gofrestrwyd neu sydd ar fin cael ei gofrestru ar dir mawr Prydain y gellir aseinio'r rhif cofrestru. Adeg ei aseinio, rhaid i'r cerbyd fod wedi ei drwyddedu, yn fath y gellir ei brofi ac yn meddu ar dystysgrif brawf ddilys, os yw hynny'n berthnasol. Ar ôl i chi aseinio eich rhif, gellir ei drosglwyddo i gerbyd arall yn amodol ar reolau trosglwyddo DVLA. Mae'n drosedd cam-gynrychioli'r rhif cofrestru mewn unrhyw ffordd.
Bydd ein gwasanaeth yn cychwyn cyn gynted ag y caiff y contract ei ffurfio, felly os oes gennych chi unrhyw amheuaeth o gwbl ynghylch eich dewis o rif cofrestru, yna dywedwch hynny yn awr cyn i'r contract gael ei gadarnhau. Wedi i'r contract gael ei ffurfio, nid oes sicrwydd y gellir ei ganslo.
Ydych chi'n deall ac yn derbyn Telerau ac Amodau Gwerthu'r Rhif Cofrestru
Rwyf yn awr yn cadarnhau eich contract gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ar gyfer y Rhif Cofrestru."
